Llongyfarchiadau gwresog i Gemma Waite, sydd newydd gwblhau ei thrydedd flwyddyn ar gwrs BA mewn Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mhrifysgol ³Ô¹ÏȺÖÚ, ar ennill Gwobr Merêd, un o brif wobrau nodedig yng Ngwobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni.

Sefydlwyd Gwobr Merêd er cof am Dr Meredydd Evans, yr athronydd, yr heddychwr a’r ymgyrchydd dylanwadol. Bu Merêd yn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, di-drais, a’r Gymraeg drwy gydol ei oes, gan ddechrau ei daith academaidd ym Mangor yn astudio athroniaeth, cyn ennill PhD ym Mhrifysgol Princeton ac addysgu ym Mhrifysgol Boston. Rhoddir y wobr hon yn flynyddol i anrhydeddu myfyrwyr sy’n cyfrannu’n sylweddol at yr iaith a diwylliant Cymraeg o fewn eu sefydliad.
Oherwydd ymrwymiad Gemma i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ei gwaith ysbrydoledig fel cynrychiolydd cwrs, a’i chyfranogiad mewn prosiectau allgyrsiol fel Heddwch yn ein Haddysg gyda Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru (a enillodd wobr Heddychwyr Ifanc gan Academi Heddwch Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru), derbyniodd y wobr arbennig hon mewn seremoni yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin, nos Iau, 19eg o Fehefin. Yr hyn a wnaeth y digwyddiad hyd yn oed yn fwy arbennig oedd y cyflwynwyd y wobr i Gemma gan yr Athro ac Archdderwydd cyfredol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a heddychwraig weithgar, Mererid Hopwood.
Wrth ymateb i’r noson a’r wobr, dywedodd Gemma: "Mae'n anrhydedd i ennill y wobr yma! Dwi'n ddiolchgar am y gydnabyddiaeth am fy ngwaith yn hyrwyddo'r Gymraeg trwy fy mhrosiectau yn y brifysgol."

Nododd yr Athro Peter Shapely, Pennaeth Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, "Mae llwyddiant Gemma Waite yn adlewyrchu’r gorau y gall ein myfyrwyr anelu tuag ato: chwilfrydedd deallusol, ymrwymiad moesegol a chysylltiad dwfn â’r gymuned a’r diwylliant. Mae ei brwdfrydedd dros addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a’i chyfraniad eithriadol at waith academaidd ac estyn allan yn ei gwneud yn dderbynnydd teilwng iawn o Wobr Merêd. Rydym yn hynod falch ohoni."
Ac ychwanegodd darlithydd Gemma a’r un a’i henwebodd, Dr Gareth Evans-Jones: "Mae wedi bod yn fraint cael cefnogi Gemma drwy gydol ei hastudiaethau. Mae ei deallusrwydd a’i hangerdd dros athroniaeth drwy’r Gymraeg yn adleisio’n berffaith ag etifeddiaeth Merêd - dyna pam ro'n i'n awyddus i'w henwebu. Ac roedd cael bod yn Yr Egin yn gweld Gemma'n derbyn y wobr gan Archdderwydd cyfredol Cymru, Mererid Hopwood, yn bleser enfawr, yn enwedig a hithau hefyd yn heddychwr gweithgar. Dwi'n edrych ymlaen yn arw at barhau i gefnogi Gemma gyda'i hastudiaethau ôl-radd."
Mae llwyddiant Gemma yn dyst i’w rhagoriaeth academaidd ac i’w hymrwymiad dwfn i ddiwylliant Cymru – gwir ysbryd Gwobr Merêd.