Arddangosfa ‘Dim Celf Gymreig’ yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Wedi'i guradu gan hanesydd celf a chyfaill hirdymor i Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, , mae’r yn Aberystwyth yn gwrthbrofi’r myth parhaus iawn "nad oes celf Gymreig” unwaith ac am byth. Gan gyfuno tua 150 o ddarnau o gasgliad preifat sylweddol Lord, y mae llawer ohonynt ar ddangos am y tro cyntaf, gyda thua 100 o ddarnau o’r Casgliad Celf Cenedlaethol a gedwir gan LlGC, mae’r arddangosfa’n llenwi Oriel Gregynog. Mae’n arddangosiad o gyfoeth diwylliant gweledol Cymru, ond yn fwy na hynny, mae Lord wedi datgloi potensial celf i adrodd stori Cymru fel cenedl. Yn y blog hwn, soniai ein Cynorthwyydd Ymchwil ac Ymgysylltu Bethan Scorey am ei hymweliad â’r arddangosfa, gan dynnu sylw at rai o’r darnau sydd â chysylltiadau â phlastai a stadau gwledig Cymru.
Ar ôl ymarfer fel artist am bymtheg mlynedd, ym 1986 trodd Peter Lord at ymchwilio i hanes celf Cymru. Ar ôl cyhoeddi’n helaeth ar y pwnc, darlledu ar y teledu a’r radio, a churadu nifer dirifedi o arddangosfeydd, i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, mae Peter ers peth amser wedi'i ystyried yn awdurdod blaenllaw ar ddiwylliant gweledol Cymru. Mae Peter hefyd yn gasglwr, sydd wedi adeiladu casgliad cenedlaethol arwyddocaol o weithiau celf Cymreig, sy’n amrywio’n fwriadol iawn o ddarnau a fyddai’n cael eu hystyried yn ‘gelfyddyd uchel’ i ddarnau crefftus a chynlluniau diwylliant gweledol.

Mae Peter wedi gwneud hi’n genhadaeth ei oes i herio’r myth "nad oes celf Gymreig”, honiad a ddechreuodd ym 1950 gyda’r nofelydd Cymreig Llewelyn Wyn Griffith (1890-1977), a ddywedodd “so much for the past. No patron, no critic, therefore no painter, no sculptor, no Welsh Art. It is as simple as that”, pan oedd yn Gadeirydd pwyllgor Cymru Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr. Dyma’r dyfyniad sy’n eich cyfarch ar drothwy’r arddangosfa, wedi’i argraffu ar y wal uwchben paentiad o Griffith gan Kyffin Williams (1918-2006). Yna mae ymwelwyr yn cario mewn i Oriel Gregynog, lle mae’r datganiad hwn wedi’i ddadadeiladu’n glyfar, gydag adrannau penodol ar “noddwyr”, “beirniaid” ac “artistiaid”.
Mae'r adran ar feirniaid yn hanesyddiaeth o gelf Gymreig, sy'n dangos pan wnaeth Griffith ei ddatganiad yn ei rôl dylanwadol ym 1950, mai dim ond atgyfnerthu cred hir a chyffredin nad oedd celfyddyd Gymreig yn bodoli yr oedd. Yn ystod y daith dywys a fynychais, eglurodd Peter sut daeth y gred hon yn rhan o feddylfryd cenedlaethol Cymru - "os dywedwch chi rywbeth wrth bobl yn ddigon aml, dro ar ôl tro, byddan nhw'n ei gredu". Gellir teimlo'r canlyniadau hyd heddiw, yng ngwerth cymharol isel darnau Cymreig mewn arwerthiannau a'r ffaith nad oes gan Gymru ei horiel gelf genedlaethol ei hun.

Mae adran “noddwyr” yr arddangosfa wedi’i hisrannu’n nawdd bonedd, nawdd dosbarth canol a chelf gan ac ar gyfer y werin bobl. O ddiddordeb arbennig i ni yn Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru – canolfan ymchwil genedlaethol sy’n bodoli i wella dealltwriaeth o rôl ystadau a phlastai gwledig yn hanesion, diwylliannau a thirweddau Cymru – yw’r adran sy’n ystyried nawdd bonedd, ac roeddwn i’n ddigon ffodus i dreulio awr yma gyda Peter cyn y daith tywys. Mae Peter wedi bod yn archwilio byd gweledol bonedd Cymru ers degawdau; mae ei lyfr Imaging the Nation, rhan o gyfres tair cyfrol o'r enw The Visual Culture of Wales a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2000-03, wedi'i gynnwys ar Restr Ddarllen Awgrymedig ein Sefydliad fel llyfr hanfodol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ystadau gwledig yng Nghymru. Roedd gan lawer o deuluoedd bonheddig Cymru gasgliadau o bortreadau, portreadau unigol a grŵp, a oedd yn ymestyn dros sawl cenhedlaeth ac felly'n mynegi llinach fonheddig a hirhoedledd y teulu. Nododd Peter fod pwyslais arbennig ar gomisiynu portreadau i nodi digwyddiadau teuluol arwyddocaol fel priodasau, genedigaethau a dathliadau dod i oed etifeddion. Er bod llawer o'r casgliadau hyn wedi'u gwasgaru, mae gan y model hwn o ddod â gweithiau celf o gasgliad cenedlaethol ynghyd â gweithiau celf o gasgliad preifat y potensial i aduno teuluoedd! Yma mae portread o Bevis Thelwall o'r ail ganrif ar bymtheg (o deulu Bathafarn, Sir Ddinbych) gan Gilbert Jackson o'r Casgliad Celf Cenedlaethol yn cael ei arddangos wrth ymyl portread o Bevis Thelwall o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg (o Frynffynnon) gan John Cambrian Rowland o gasgliad Peter.
Gyda fy niddordeb ymchwil personol yn hanes pensaernïol y plasty Cymreig, cefais fy nenu'n arbennig at ddau baentiad o Fodelwyddan yn Sir y Fflint, cartref hynafol teulu Williams, a Chefn Mabli ym Sir Forgannwg, cartref hynafol teulu Kemeys. Mae'r ffaith bod y bonedd Cymreig wedi comisiynu ac arddangos paentiadau o dai eu hynafiaid yn dangos bod y rhain hefyd yn cael eu gweld fel amlygiad corfforol o hirhoedledd a pharhad teulu.

Fodd bynnag, amcan Peter gyda'r adran hon o'r arddangosfa oedd dangos nad oedd nawdd bonedd Cymru yn un dimensiwn yn unig; yn ogystal â phortreadau 'cymdeithas uchel' gan beintwyr enwog, roedd bonedd Cymru hefyd yn comisiynu gwaith gan beintwyr Cymreig a oedd wedi hyfforddi yn Llundain a'r Eidal fel Richard Wilson (1714-1782), William Parry (1743-1791) a Hugh Hughes (1790-1863), yn ogystal â gwaith gan grefftwyr lleol. Er mwyn gwneud y pwynt hwn, mae Peter yn cyfosod bortread o tua 1765 o Robert Wynne o Garthewin (1732-1798) gan Thomas Gainsborough (1727-1788), un o artistiaid Prydeinig enwocaf ail hanner y ddeunawfed ganrif, y credir iddo gael ei beintio yng Nghaerfaddon, gyda phanel pren a beintiwyd gan grefftwr lleol dienw ym 1787 i nodi dyfodiad mab Wynne i oed, sy'n cynnwys englynion Cymraeg. Roedd paneli o'r fath yn wrthrychau dros dro, gyda'r bwriad o'u harddangos yn ystod digwyddiad fel dawns neu wledd; mewn gwirionedd, mae archwiliad pelydr-x o'r panel penodol hwn wedi datgelu bod y ddelwedd o ddod i oed wedi'i phaentio dros waith cynharach, sef wrn i nodi angladd. Mae Peter yn egluro bod y paentiad symbolaidd hwn bron yn sicr yn waith teulu Walters o grefftwyr Dinbych, a oedd hefyd yn gyfrifol am bortreadau'r gweision yn Erddig.

Mae casgliad o baentiadau o ystâd Gogerddan yn arbennig o ddiddorol gan ei fod yn darlunio bywydau beunyddiol y teulu Pryse, hen deulu Cymreig â gwreiddiau yn hen sir Aberteifi. Mewn un paentiad o 1863 gan artist anhysbys, mae Jane Pryse yn paratoi i fynychu digwyddiad cymdeithasol, yng nghwmni ei choetsmon ac wedi'i hamgylchynu gan ei chŵn. Mae paentiadau eraill yn darlunio Hela Gogerddan a cheffyl o'r enw Magpie yn y stablau, gan ddangos sut roedd hela yn un o weithgareddau craidd teulu Pryce. Gyda mwy o ymchwil, mae gan y casgliad hwn lawer i'w ddweud wrthym am fywydau mewnol boneddigion Cymru.

Mewn man arall yn yr adran hon o'r arddangosfa ar nawdd bonedd, mae Peter yn trafod y ffasiwn ar gyfer peintio tirwedd a theithio yng Nghymru ymhlith bonedd Lloegr yn chwarter olaf y ddeunawfed ganrif, gan ddangos bod y ffasiwn hwn wedi'i ddylanwadu'n fawr gan weithgareddau bonedd Cymru yn y chwarter canrif blaenorol. Un o'r gweithiau mwyaf trawiadol sydd ar ddangos yw paentiad o Gastell Dinas Brân, Llangollen, Sir Ddinbych, gan Richard Wilson tua 1771 - fersiwn lai o baentiad llawer mwy, neu o bosibl braslun paratoadol. Comisiynwyd hwn gan Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig (1749-1789) wrth ddychwelyd i Gymru o'i daith fawr o amgylch yr Eidal, lle roedd wedi nodi tebygrwydd rhwng Rhufain hynafol a Phrydain hynafol. Y bwriad oedd darlunio Dinas Brân, castell brodorol Cymreig a safle gyda arwyddocad chwedlonol a hanesyddol, yn y traddodiad Clasurol. Roedd y paentiad gorffenedig yn hongian yn nhŷ Syr Watkin yn Llundain lle cafodd ei weld gan ei gyfoedion Seisnig mewn cymdeithas ffasiynol, ac yn sicr fe ddeffrodd eu diddordeb yn nhirweddau darluniadwy gogledd Cymru. Mae'n arbennig o ddiddorol cymharu'r paentiad hwn, sy'n darlunio tirwedd Cymru yn y traddodiad Clasurol, nid yn unig fel cefndir ond fel pwnc sy'n deilwng o sylw ynddo'i hun, â phaentiad Helfa Gogerddan, lle mae teulu Pryse a'u criw yn cael eu darlunio yn nhirwedd Cymru, a'r hyn y gall hyn ei ddweud wrthym am hunaniaethau bonedd Cymru. Cyflogodd y Syr Watkin yr arlunydd Seisnig Paul Sandby (1731-1809) i'w hyfforddi mewn darlunio, a theithiodd y ddau Eryri gyda'i gilydd ym 1771. Roedd y paentiadau a gynhyrchwyd gan Sandby yn ystod y daith hon hefyd yn ddylanwadol iawn mewn cylchoedd Seisnig. Mae Peter hefyd yn rhoi clod i'r naturiaethwr a'r hynafiaethydd Cymreig Thomas Pennant (1726-1798), a ddaeth o deulu bonheddig Downing yn Whitford, Sir y Fflint, am ddod â thirweddau rhamantus gogledd Cymru i sylw teithwyr o Loegr gyda'i gyhoeddiadau Tour in Wales (1773) ac A Journey to Snowdon (1781), a ddarluniwyd gan Moses Griffith (1747-1819).

Mewn rhannau eraill yn yr arddangosfa, roedd yn ddiddorol gweld y ffyrdd y cafodd rhai ffigurau bonedd Cymru eu masnacheiddio, mewn engrafiadau a gynhyrchwyd yn dorfol ac arwyddion tafarndai, er enghraifft. Roedd portread o Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig (1772-1840) gan yr artist Seisnig Albin Roberts Burt (1783-1842) yng nghwmni fersiwn wedi'i hysgythru gan yr un artist. Er na fyddai Burt wedi cael ei dalu am ei waith ar y portread gwreiddiol, gwnaeth ei arian o werthiant y fersiwn wedi'i hysgythru. Yn adran yr arddangosfa ar gelf gan ac ar gyfer y werin bobl, mae paentiad o 1832 o William Henry Paget, Ardalydd 1af Ynys Môn (1768-1854) gan John Roberts o Gaernarfon, a oedd yn un ar bymtheg oed. Mae ymchwil Peter wedi canfod mai copi o arwydd tafarn oedd y paentiad hwn, a gafodd ei gopïo o engrafiad yn wreiddol. Mae'r gweithiau hyn yn dangos yr ymdeimlad o enwogrwydd (celebrity) a oedd yn amgylchynu rhai ffigurau bonedd Cymru, mewn meysydd lleol a chenedlaethol.

Mae'r arddangosfa ‘Dim Celf Gymreig’ yn rhedeg tan 6 Medi 2025 ac mae Peter Lord yn arwain ar 2 Gorffennaf a 3 Medi, yn ogystal â theithiau i ymwelwyr dall neu rannol ddall ar 20 Awst. Mae cyfres o gyflwyniadau ‘Mewn Ffocws’ ar y gweill hefyd yn archwilio themâu fel celf a barddoniaeth; celf, gwleidyddiaeth a phrotest; a chelf a hunaniaeth. Hoffai Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru longyfarch Peter Lord am guradu’r arddangosfa wych hon, a diolch iddo am gwrdd â Bethan i'w drafod.