³Ô¹ÏȺÖÚ yn disgleirio mewn cynhadledd fawr ar ymchwil dwyieithrwydd
Roedd gan ymchwil i ddwyieithrwydd ³Ô¹ÏȺÖÚ bresenoldeb cryf mewn cynhadledd ryngwladol fawr ar ddwyieithrwydd (15fed Symposiwm Rhyngwladol ar Ddwyieithrwydd, ISB15) a gynhaliwyd yng Ngwlad y Basg a fynychwyd gan dros 1000 o gyfranogwyr o bob cwr o'r byd.
Cynhaliodd Labordy Dwyieithrwydd Plant Prifysgol ³Ô¹ÏȺÖÚ symposiwm thematig ar gefnogi caffael dwyieithog mewn unigolion â chyflyrau datblygiadol. Adroddodd Meinir Williams (PhD Ieithyddiaeth) ar brosiect i greu lleisiau plant ar gyfer cyfathrebu estynedig ac amgen (AAC) dwyieithog yng Nghymru, dan arweiniad Uned Technoleg Iaith Prifysgol ³Ô¹ÏȺÖÚ. Cyflwynodd Rebecca Day (PhD Dwyieithrwydd) ganfyddiadau ar fynychder dwyieithrwydd mewn syndrom Rett. Profiadau Therapyddion Lleferydd ac Iaith yng Nghymru oedd pwnc cyflwyniad Jazmine Beauchamp (PhD Dwyieithrwydd). Yn olaf, daeth y symposiwm thematig i ben efo cyflwyniad gan Bethan Collins (PhD Dwyieithrwydd) ar brosiect arloesol sy'n defnyddio'r celfyddydau i gynorthwyo dysgu ieithoedd mewn ffordd gynhwysol, dan arweiniad Mared Huws (Pontio).
Rhoddodd ymchwilwyr ôl-raddedig o'r Labordy Dwyieithrwydd Plant a chydweithwyr lawer o sgyrsiau unigol eraill ar eu hymchwil yn y gynhadledd, gan gynnwys dwyieithrwydd mewn Anhwylder Iaith Datblygiadol gan Maryam Awawdeh (PhD Dwyieithrwydd), addysg drochi Gareth Caulfield (PhD Dwyieithrwydd), newid cod mewn unigolion â dementia gan Laura Maguire (PhD Dwyieithrwydd), sgiliau Uwchwyboddol a sgiliau darllen mewn plant sy’n datblygu dwyieithrwydd gan Bethan Collins, a mwy.
Dywed Eirini Sanoudaki, Cyfarwyddwr y Labordy ac Arweinydd Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau: ‘Roedd yn wych gallu lledaenu ein hymchwil yn y gynhadledd bwysig hon. Mae llwyddiant a chyfraniad ein hymchwilwyr PhD yn arbennig o arwyddocaol: mae Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil i ddwyieithrwydd ac mae ein hymchwilwyr ôl-raddedig ardderchog yn arwain y ffordd.’
Cafodd ymchwilwyr ôl-raddedig yn y Labordy Dwyieithrwydd Plant gefnogaeth yn y gynhadledd hon gan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru ESRC a Chronfa ³Ô¹ÏȺÖÚ. Mae Cronfa ³Ô¹ÏȺÖÚ yn cynnwys rhoddion gan gyn-fyfyrwyr y Brifysgol, caiff y gronfa ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni.
