³Ô¹ÏȺÖÚ

Fy ngwlad:
A group around a table with laptops and phones

Y Clinig Busnes

Cydweithio – Arloesi – Tyfu 

Business People at a Table

Amdanom Ni

Mae gan Ysgol Busnes ³Ô¹ÏȺÖÚ bartneriaethau hirsefydlog â diwydiant ac mae'n croesawu busnesau o bob maint a sector i elwa o'i harbenigedd helaeth. Trwy’r Clinig Busnes, mae perchnogion busnesau sefydledig a busnesau newydd yn cael mynediad at wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth academyddion blaenllaw a myfyrwyr talentog, gan feithrin arloesedd a thwf. Mae'r Clinig Busnes hefyd yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr glywed gan arbenigwyr yn y diwydiant a chael cipolwg ar arferion busnes blaenllaw ledled y byd. 

Beth bynnag yw eich busnes, rydym eisiau clywed gennych. 

CYMERWCH RAN

Gall gweithwyr proffesiynol busnes ymgysylltu â'r Clinig Busnes mewn sawl ffordd:

  • Cyfleoedd i fod yn Siaradwr Gwadd: rhannwch eich gwybodaeth a'ch profiad. 
  • Gwaith ymgynghorol: Cyflwynwch her fusnes i'r myfyrwyr mewn gweithdy neu dewch yn gleient i'n myfyrwyr ymgynghorol. 
  • Ymchwil: ennill dealltwriaeth drwy ymchwil wrth weithio gyda'n myfyrwyr traethawd hir neu weithio gyda'n hymchwilwyr academaidd arbenigol. 
  • Interniaeth: dewch i siarad â ni am ffyrdd y gallech gynnig profiad gwaith neu interniaethau 
  • Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth: dewch i siarad â ni i gael gwybod sut y gallai Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth fod o fudd i'ch gweithle. 
  • Cyfrannwch at ddatblygu graddedigion y dyfodol: rydym yn awyddus i gael dealltwriaeth gan arbenigwyr yn y diwydiant i baratoi’r myfyrwyr am lwyddiant yn eu gyrfaoedd. 
  • Byddwch yn rhan o’r Wal Partneriaethau: drwy weithio gyda ni a dod yn Bartner i Ysgol Busnes ³Ô¹ÏȺÖÚ, rydych chi'n dangos bod eich busnes wedi ymrwymo i gefnogi addysg fenter yn Ysgol Busnes ³Ô¹ÏȺÖÚ; gan gyfrannu at ddatblygu graddedigion y dyfodol. 

Gweithio gyda Ni

Mae gan ein tîm academaidd arbenigedd ar draws pob maes busnes.  Ar hyn o bryd mae staff Ysgol Busnes ³Ô¹ÏȺÖÚ yn ymwneud â phrojectau ymchwil ar raddfa fechan a graddfa fawr ar draws ein Canolfannau Ymchwil: Rhanbarth – Canolfan ar gyfer Rhanbarthau ac Economïau Cynaliadwy, a’r Sefydliad Cyllid Ewropeaidd.  Mae llawer o'n projectau'n cynnwys partneriaid diwydiant o'r trydydd sector, y sector preifat a'r sector statudol ac yn anelu at hysbysu polisi ac ymarfer. Cysylltwch â ni i weld sut y gallech fod yn rhan o’n hymchwil. 

Cwestiynau Cyffredin

Mae gennym ddiddordeb clywed gan fusnesau o unrhyw fath, mewn unrhyw sector, a phobl sydd eisiau dechrau eu busnesau eu hunain.

Gallwch, hoffem glywed gennych ar yr amod eich bod wedi cael caniatâd perchennog/cyfarwyddwr y busnes i weithio gyda ni.

Trwy weithio gyda'n myfyrwyr, byddwch yn helpu rhoi profiad i raddedigion busnes y dyfodol.  Bydd ein myfyrwyr yn defnyddio eu gwybodaeth a’u profiad wrth astudio i helpu i fynd i’r afael â’r her(iau) busnes sydd gennych dan sylw. Caiff y myfyrwyr eu harwain gan academyddion blaenllaw ym maes busnes.

Na, nid yw’n costio dim.  Mae Prifysgol ³Ô¹ÏȺÖÚ wedi ymrwymo i sicrhau effaith economaidd, cymdeithasol a dinesig, ac mae’r fenter Clinig Busnes yn un ffordd o wneud hyn, o blith eraill. Yr unig beth rydym yn gofyn amdano yw eich amser. 

Gweithgareddau Cyfredol

Dau berson yn cael cyfarfod busnes

Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd

Mae ein hacademyddion wedi derbyn cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig, sef cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer projectau ym meysydd cefnogi busnesau, twf a marchnata ledled Gogledd Cymru. Mae'r projectau hynny’n gweithio gyda Snowdon Timber, Kondergarten, Canolfan Abbey Road, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Enfys Ecology, Making Places Work, Nant Gwrtheyrn, Bwydydd Oren Foods, Menter Elusendai Penmynedd, Ymddiriedolaeth y Tŵr Marcwis, Creadigol Design, 42able.AI, Phoenix LBS, Well-Fed, Outwrite PR Ltd, a'r Wings Club.